Teuluoedd mewn profedigaeth ac adolygiad brys Covid yng Nghymru
2 min Filmed in United Kingdom
2 min Filmed in United Kingdom
Shwt y'ch chi'n teimlo am gael eich galw'n ffradwr?
Dwi'n deall y, y boen mae'r teuluoedd, y, y nifer ohonyn nhw'n mynd drwyddo.
Mae'n rhaid i ni gofio bod nifer ohonyn nhw a bod nhw dal yn galaru ar hyn o bryd oherwydd y poen mawr roedden nhw 'di mynd trwy yn y cyfnod yna lle roedd nifer ddim 'di cael gweld eu hanwyliad, lle roedden nhw ddim 'di cael cyswllt.
Rŵan, os ydyn ni'n mynd i ffeindio atebion er mwyn peidio gadael i bobl ddioddef yn y dyfodol, na mae'n rhaid i ni gael adolygiad brys, sydyn sydd yn dysgu'r gwersi yna er mwyn caniatáu i ni, i osod trefnedeithiau, llywodraethiant mewn lle er mwyn atal problemau yn y dyfodol.
Ond mae'r teuluoedd eu hunain yn dweud na fyddan nhw'n rhan o'r broses.
Gewch chi ddim atebion drwy hynny. Dwi'n mawr obeithio y fydd y grŵp yma, penodol yma, yn dod yn rhan o'r broses.
Maen nhw wedi profi bod yn werthfawr iawn yn eu dealltwriaeth nhw- Covid Bereaved Families yw'r rhain.
Covid Bereaved Families for Justice Cymru ydy'r rhain.
Mae 'na, mae 'na grwpiau eraill gyda llaw yng Nghymru a fydd yn cymryd rhan.
Ond mae'r grŵp penodol yma wedi profi ei fod yn andros o werthfawr yn y, yn eu cyfraniad nhw i'r, y, y- A dyma'r diolch maen nhw'n ei gael.
Y diolch- Ffrad. Dyna maen nhw'n ei ddweud.
Dyna'u geiriau nhw. Dwi, dwi yn derbyn bod nhw'n teimlo hynny, ond nid dyna ydy o mewn gwirionedd, oherwydd mi fydd yna bandemig arall.
Mae'n rhaid i ni beidio esgus na dydi- mae one off ydy hyn.
Mae'n mynd i ddigwydd eto yn y dyfodol. Pryd? 'Dan ni ddim yn gwybod.
Felly gadewch i ni fod yn barod ar gyfer hynny pan ddaw o.
End of transcript · 297 words
TranslateMom transcribes and translates videos from X, TikTok, YouTube and Instagram. Paste a link and you get a page like this one, in your language.